Croeso i Merched y Wawr Bethel
08.10.25 Carys Davies - 'So Chic'
Ein gwraig wadd mis yma oedd Carys Davies o 'So Chic' ym Mangor. Rhoddodd ychydig o’i hanes a sut y cychwynnodd y busnes cyn symud ymlaen at awgrymiadau ar beth i’w wisgo. Pwysleisiodd fod rhaid i rywun deimlo’n gyfforddus yn y dillad, a chael dilledyn o ansawdd da wnaiff bara am flynyddoedd. Gellir ychwanegu belt, mwclis, cadwyni neu sgarff i fynegi steil bersonol. Yn y llun gwelwn ein Llywydd Anita (ar y dde) gyda Carys cyn y cyfarfod.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Newyddion
Amdanom
Gwybodaeth








